Ein Dull o Ofal Preifat a Chydweithio â’r GIG

Yn WWWW, rydym yn cynnig gwasanaethau integredig a arweinir gan ymgynghorwyr mewn gynaecoleg, menopos, ac uwchsain. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parch at ffiniau’r GIG a sicrhau cyfathrebu tryloyw a phroffesiynol pan fydd cleifion yn ceisio gofal preifat.

Ein Cyfrifoldebau

Pan fydd claf yn derbyn gofal preifat drwy WWWW:

  • Rydym yn cymryd cyfrifoldeb clinigol llawn am y cyfnod gofal hwnnw.
  • Rydym yn trefnu’r holl brofion, delweddu, presgripsiynau, a dilyniant.
  • Nid ydym yn gofyn i gydweithwyr y GIG drefnu ymchwiliadau nac i reoli cynlluniau triniaeth breifat.

Rydym yn sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o hyn o’r cychwyn, yn unol â’r Canllawiau Cais Profion Preifat Cymru Gyfan.

Gwahanu Gofal

Rydym yn cefnogi’n llwyr y canlynol:

  • Dim trawsnewid rhwng adnoddau’r GIG a’r gwasanaethau preifat yn ystod yr un cyfnod gofal.
  • Dim “dewis a dethol” rhwng gwasanaethau.
  • Bod cleifion yn cael eu hailasesu wrth ddychwelyd i’r GIG, heb unrhyw ddisgwyl o ran parhad cynlluniau preifat.
  • Byth yn gofyn i glinigwyr y GIC weithredu ar neu reoli argymhellion preifat.

Cyfathrebu â Gofal Cynradd

Gyda chaniatâd y claf, byddwn yn:

  • Anfon crynodeb o’r ymgynghoriad ar gyfer eich cofnodion.
  • Rhannu canfyddiadau allweddol (e.e. canlyniadau sgan) wedi’u marcio’n glir fel rhan o ofal preifat.

Rydym wedi ymrwymo i weithio’n gydweithredol ac yn barchus ac yn anelu i ategu at gofal y GIG — nid rhoi disgwylaidau arno.