Croeso

i West Wales

Women’s Wellbeing

(WWWW)

Croeso…..

Mae ein datganiad cenhadaeth yn syml: i gynnig gofal gwych sydd yn rhwydd i gael mynediad iddo, mewn awyrgylch tawel, pwyllog a charterfol. Yn WWWW, rydym yn ystyried y person cyfan — nid set o symptomau.

Yma yn WWWW, rydyn ni’n credu bod menywod yn haeddu gofal iechyd arbenigol, hygyrch, mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Dan arweiniad y Gynaecolegydd Ymgynghorol a’r Arbenigwr Menopos gyda Chymdeithas Menopos Prydain, Mr Alan Treharne (BSc Anrh, MBBS, MRCOG, DFSRH, PGDip USS), rydyn ni’n cynnig gofal cynhwysfawr ‘mewn un man’ ar gyfer amrywiaeth eang o faterion iechyd menywod.


Wedi’n lleoli yn The Independent GP yng Nghaerfyrddin, mae WWWW yn cyfuno arbenigedd lefel ysbyty gyda chyfleustra lleol – felly does dim rhaid teithio’n bell i gael gofal o safon uchel.

Gofal Gynaecolegol dan Arweiniad Ymgynghorydd yng Nghanol Caerfyrddin


Cwrdd gyda Mr Alan Treharne

BSc (Anrh), MBBS, MRCOG, DFSRH, PGDip (USS), Arbenigwr Menopos
BMS Ymgynghorydd Gynaecoleg | Arbenigwr mewn Uwchsain, Menopos ac Iechyd Menywod yn y Gymuned


Mae Alan yn cynnig gofal arbenigol ac hygyrch i fenywod ym mhob cam
o’u bywyd. Mae’n adnabyddus am ei agwedd dawel a chlir, ynghyd â’i safon glinigol eithriadol. Mae’n darparu gwasanaethau gynaecoleg ac
uwchsain ‘un man’, wedi’u teilwra i’ch anghenion chi.

Gofal Arbenigol. Wedi ei integreiddio’n ddi-dor.