Beth yw STIs?
Mae STIs (Heintiadau sy’n cael eu trosglwyddo trwy ryw) yn heintiau sy’n cael eu trosglwyddo o un person i’r llall drwy gysylltiad rhywiol. Mae hyn yn cynnwys rhyw y wain, anws, a’r geg. Gall rhai hefyd gael eu trosglwyddo drwy gyswllt croen â chroen neu rannu offer rhywiol.
Mathau Cyffredin o STIs:
- Clamidia – Yn aml does dim symptomau; gall achosi anffrwythlondeb os na chaiff ei drin.
- Gonoré – Gall achosi gollyngiad o’r wain a phoen wrth basio dwr; gall arwain at gymhlethdodau os na chaiff ei drin.
- Herpes Genital – Achosi llid neu groen poenus; fe’i hachosir gan firws a all ddychwelyd.
- Brech Genital (HPV) – Gronynnau neu dwf bach o amgylch y rhannau rhywiol neu’r anws.
- Siffilis – Dechrau gyda briwiau (sores) di-boen, gall symud ymlaen i gymhlethdodau difrifol os na chaiff ei drin.
- HIV – Firws sy’n gwanhau’r system imiwnedd; cael ei reoli gyda thriniaeth bywyd cyfan.
- Trichomoniasis – Achosir gan barasit; gall achosi gollygniad o’r wain a theimlad anghyfforddus.
- Hepatitis B/C – Feriws sy’n gallu effeithio ar y afu.
Beth yw’r symptomau?
Does gan lawer o heintiau sy’n cael eu trosglwyddo trwy ryw (STIs) ddim symptomau, yn enwedig yn y camau cynnar. Pan fydd symptomau’n datblygu, gallant gynnwys:
- Hylif annormal o’r wain neu’r pidyn
- Poen neu losgi wrth droethi (pasio dŵr)
- Cosi, llid neu frech yn ardal y rhannau rhywiol
- Pothelli, briwiau (sores) neu lympiau o amgylch y rhannau rhywiol neu’r anws
- Poen wrth gael rhyw
- Gwaedu rhwng mislifau neu ar ôl rhyw
Sut mae STIs yn cael eu diagnosio?
- Profion wrin
- Cymysgedd o samplau o’r rhannau rhywiol, y gwddf, neu’r anws
- Profion gwaed (yn enwedig ar gyfer HIV a siffilis)
- Archwiliad corfforol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae’r profion fel arfer yn gyflym ac yn gyfrinachol.
Sut mae STIs yn cael eu trin?
- Heintiadau bacteria (fel clamidia a gonoré): caiff eu trin gyda gwrthfiotig
- Heintiadau firws (fel herpes, HIV): does dim iachâd, ond gall symptomau gael eu rheoli gyda meddyginiaeth
- HPV a brech rhannau rhywiol y corff: gellir eu trin gydag eli neu lawdriniaeth bach
- Siffilis: caiff ei drin gyda chwistrelliadau gwrthfiotig
Mae’n bwysig cwblhau’r cwrs llawn o driniaeth a pheidio â chael rhyw tan fod eich darparwr gofal iechyd yn dweud ei fod yn ddiogel.
Sut alla i atal heintiau rhywiol?
- Defnyddia gondom bob tro wyt ti’n cael rhyw (wain, anws, neu geg)
- Gwirio am heintiau rhywiol yn rheolaidd, yn enwedig os oes gennych bartneriaid newydd neu sawl partner
- Peidio â rhannu offer rhywiol, neu ddefnyddio gondom arnynt a’u glanhau’n drylwyr
- Cael brechiad (e.e., brechiad HPV, brechiad hepatitis B)
Beth os oes gennych haint rhywiol?
- Paid â phoeni – mae’r rhan fwyaf o heintiau rhywiol yn cael eu trin neu eu rheoli
- Paid â chael rhyw tan fod y driniaeth wedi gorffen a bod y meddyg wedi dweud ei fod yn ddiogel
- Dweud wrth bartneriaid rhywiol diweddar fel y gallant gael profion a thriniaeth hefyd
- Dychwelyd am brofion dilynol os bydd yn cael eu cynghori
Ble alla i gael profion neu driniaeth?
Ble alla i gael profion neu driniaeth?
- WWWW
- Clinigau iechyd rhywiol neu GUM (meddyg genito-urinary)
- Meddygfa meddyg teulu
- Ambell fferyllfa
- Clinigau cymunedol neu wasanaethau ar-lein (mewn rhai ardaloedd)
