Yn dod yn fuan!

Yn West Wales Women’s Wellbeing, rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth glinigol berthnasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gweithwyr gofal iechyd mewn pob math o leoliad. Bydd ein Canolfan Addysg ac Hyfforddiant sydd ar y gweill, yn cynnig dysgu strwythuredig i Feddygon Teulu, nyrsys, gweithwyr cymorth iechyd, ac hyfforddeion yn y sector gofal cynradd ac eilradd.

Bydd ein rhaglen yn canolbwyntio ar heriau go iawn mewn iechyd menywod, gan gynnwys pynciau fel menopos, anawsterau mislif, poen pelfig, uwchsain, a chyflyrau fwlfa. Bydd yn amlygu triniaethau a dyfeisiadau newydd drwy gydweithio â diwydiant arbenigol.

Gweledigaeth

Creu gweithlu iechyd medrus, cysylltiedig, a gwybodus sy’n darparu gofal iechyd
menywod o’r ansawdd uchaf, ledled Cymru a thu hwnt.

Amcanion

  • Darparu addysg o safon uchel wedi’i seilio ar dystiolaeth a pherthnasedd clinigol.
  • Cefnogi datblygiad meddygon teulu, gweithwyr cymorth iechyd, a hyfforddeion ar bob cam o’u gyrfa.
  • Cryfhau cydweithio rhwng gofal cynradd, cymunedol, ac eilradd.
  • Hwyluso defnydd moesegol o driniaethau, technolegau, a dyfeisiau newydd.
  • Cyfrannu at gadw a datblygu’r gweithlu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Nodau

  • Darparu dysgu rheolaidd ar bynciau allweddol iechyd menywod trwy ddulliau ar-lein a gwyneb yn wyneb
  • Cefnogi datblygiad ymarferion ar lefel sylfaenol i arferion clinigol uwch.
  • Hwyluso rhwydweithio cydweithwyr a dysgu ar y cyd ar draws disgyblaethau.
  • Integreiddio canllawiau clinigol a thrafodaethau achosion byd go iawn ym mhob cyd-destun iechyd menywod.
  • Partneru gyda diwydiant i ddarparu diweddariadau cytbwys ar arloesedd.