Arbenigwyr Iechyd Menywod, Ystyriol integredig
Yn WWWW, rydym yn cynnig gwasanaeth newydd annibynnol ym maes gofal
menywod — lle mae gynaecoleg, gofal menopos, a sganio uwchsain datblygedig i
gyd yn gweithio’n ddi-dor o dan yr un to. Mae ein dull integredig yn golygu y
byddwch yn cael eich gweld gan arbenigwr sydd yn gallu asesu, ymchwilio, a
chynghori ar eich triniaeth mewn un apwyntiad. Mae hwn yn ofal personol a gyflwynir
yn effeithlon, mewn amgylchedd tawel a modern, gyda phob manylyn wedi’i
gynllunio i’ch helpu i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus.
Mae ein model integredig yn berffaith ar gyfer problemau gynaecolegol cyffredin fel
gwaedu anghyson, poen pelfig, neu broblemau atal cenhedlu sydd ddim yn aml yn
galw am ofal ysbyty ond sydd yn elwa o sylw arbennig ar adeg priodol. Yn WWWW,
mae gennych fynediad uniongyrchol at glinigwyr profiadol sy’n gallu asesu a gwneud
ymchwiliadau mewn un ymweliad, gyda chefnogaeth uwchsain yn yr un lle a
phenderfyniadau wedi ei wneud gan arbenigwyr yn y maes. Does dim aros hir am
gnalyniadau a phenderfyniadau, does yna ddim camau diangen.
Credwn y dylai gofal o ansawdd uchel fod yn hygyrch a gofalus — gan gyfuno
rhagoriaeth feddygol gyda phrisiau clir a phrofiad personol a chefnogol. Dyma ofal
iechyd menywod sydd yn cael ei ddarparu mewn modd unigryw.
Os bydd angen i’ch gofal barhau y tu hwnt i WWWW, byddwn yn eich tywys ar hyd
pob cam. Trwy ein rhwydwaith dibynadwy o gydweithwyr GIG, darparwyr preifat, a
chydweithrediad agos â’ch meddyg teulu, rydym yn sicrhau bod eich gofal yn
parhau’n ddi-dor ac yn gysylltiedig — pa bynnag ble mae’n mynd. Mae parhad yn
bwysig, ac mae chi’n bwysig.
Rydym yn cyfuno arbenigedd gynaecoleg, sganio uwchsain datblygedig, a gofal
menopos caredig i roi eglurder, hyder, a rheolaeth dros eich iechyd i chi. Dim
apwyntiadau wedi eu cynnal ar frys, dim ansicrwydd. Dim ond gofal doeth,
cydweithredol wedi’i gynllunio o amgylch eich bywyd.

Integredig. Personol. Di-oed.
Mae Alan Treharne yn ymgynghorydd Gynaecolegol gyda diddordeb arbennig mewn sganio uwchsain, menopos, ac gofal iechyd menywod cymunedol. Mae Alan yn arbenigwr menopos cydnabyddedig gyda’r British Menopause Society (BMS), yn cynnig cefnogaeth bersonol sydd yn seiliedig ar dystiolaeth i fenywod. Wedi ei leoli yng nghanolbarth Cymru, mae Alan yn ymroddedig i ddarparu gofal arbenigol ac
hygyrch — gyda ffocws ar ddiagnosis cyflym, clinigau un-stop, a chyfathrebu clir a charedig. Hyfforddodd yn Llundain a Chymru, gan raddio o St George’s, Prifysgol Llundain, gyda gradd BSc (Anrh) a MBBS, cyn cwblhau hyfforddiant ôl-raddedig mewn gynaecoleg. Mae’n Aelod o’r Royal College of Obstetricians and Gynaecologists (MRCOG) ac mae ganddo gymwysterau ychwanegol mewn uwchsain ac iechyd rhywiol ac atgenhedlol.
Mae ei ddiddordebau clinigol yn cynnwys gwaedu trwm neu anghyson, menopos a materion sy’n gysylltiedig â HRT, endometriosis, codennau ofaraidd, problemau’r
fwlfa, a gofal beichiogrwydd cynnar. Mae Alan yn enwog am ddefnyddio uwchsain o’r ansawdd uchaf yn ei ddiagnosis, sy’n hwyluso’r gallu i wneud penderfyniadau cyflym yn hyderus.
Yn ogystal â’i waith clinigol, mae Alan yn arwain ar ddatblygu gwasanaethau ac addysg. Mae wedi cyflwyno dulliau arloesi cydnabyddedig yn genedlaethol mewn gynaecoleg cymunedol ac yn gwasanaethu fel Is Lywydd Cymdeithas
Delweddu Gynaecolegol Prydain (BSGI). Mae ei gleifion yn gwerthfawrogi ei asesiadau manwl, ei ffordd gydweithredol, a’i agwedd gynnes a pharchus.
Os ydych eisiau atebion, sicrwydd, neu gynllun iechyd, nod Alan yw sicrhau eich bod cael eich clywed, bod gennych wybodaeth glir, ac bod chi’n hyderus yn y driniaeth rydych wedi derbyn.
Eglurder. Hyder. Parhad.



