Mae WID®-easy yn brawf cyflym, cywir, a phrydlon i ganfod canser y groth yn gynnar mewn menywod sydd â gwaedu anghyffredin o’r groth. Cymerir sampl gyda swab o geg y groth a’r groth, ac fe’i anfonir i’r labordy i ddadansoddi’r DNA. Wedyn, bydd y canlyniad yn cael ei anfon yn ôl i’r clinig. Mae lefel uchel i gywirdeb y prawf WID-easy yn helpu i gael darlun cliriach o’r risg o ganser ac i benderfynu os oes angen ymchwiliadau pellach fel hysterosgopi.

Sut mae’r prawf WID-easy yn cael ei wneud?

Bydd eich clinigydd yn cymryd sampl o’r wain a thu ôl i geg y groth, yn debyg i brawf ceg y groth. Bydd eich sampl yn cael ei hanfon i’r labordy i’w ddadansoddi.

Cam 1


Cymerir y sampl gyda swab yn ystod archwiliad y wain.

Cam 2

Caiff y sampl ei ddadansoddi yn y labordy gan ddefnyddio PCR (fel prawf Covid).

Cam 3

Anfonir y canlyniad i’ch clinig mewn ychydig ddyddiau.

Sut mae’n gweithio?

Mae WID-easy yn mesur newidiadau cemegol yn eich DNA o’ch groth a’ch wain sy’n dangos a oes celloedd canser yno neu beidio.

Pam y cynigiwyd y prawf WID-easy i mi?

Mae menywod gyda gwaedu anghyffredin o’r groth mewn mwy o berygl o ganser y groth. Mae’r prawf WID-easy yn helpu meddygon i eithrio canser y groth yn gywir neu i gadarnhau bod mwy o bosibilrwydd o ganser.

Beth mae canlyniad WID-easy positif neu negyddol yn ei olygu?

Os yw’ch prawf WID-easy yn negyddol, mae’r siawns o gael canser yn llai na 0.4%. Os yw’n bositif, mae mwy o bosibilrwydd o ganser, felly bydd eich meddyg yn cynghori ar gamau er mwyn ymchwilio’n bellach.