Gofal Gynaecolegol Dan Arweiniad Ymgynghorydd yng Nghanol Caerfyrddin

Yn WWWW, credwn fod menywod yn haeddu gofal iechyd arbenigol ac hygyrch
mewn awyrgylch croesawgar a chefnogol. Dan arweiniad Mr Alan Treharne (BSc
Anrh, MBBS, MRCOG, DFSRH, PGDip USS), Ymgynghorydd Gynaecolegol ac
Arbenigwr Menopos o’r British Menopause Society, rydym yn cynnig gofal
cynhwysfawr yn yr un man ar gyfer amrywiaeth o faterion iechyd menywod – o sganiau beichiogrwydd cynnar i’r menopos.


Wedi ei leoli yn yr Independent GP yng Nghaerfyrddin, mae WWWW yn cyfuno
arbenigedd lefel ysbyty gyda chyfleustra cymunedol, felly does dim rhaid i chi
deithio’n bell am ofal o ansawdd uchel.

Mae ein Gwasanaethau yn cynnwys:

Gynaecoleg a Phecynnau Arbenigol

  • Gwaedu trwm, anghyson neu ôl-menopos
  • Sicrwydd beichiogrwydd cynnar ac ymchwiliadau mewn i gamesgoriad
  • Poen pelfig a gofal endometriosis
  • Iechyd y fwlfa a’r wain

Gofal Atal a Sgrinio

  • Gwiriad Menywod Iach (yn cynnwys uwchsain, prawf ceg y groth, profion gwaed, sgrinio STI)
  • Gwiriadau ofarïau
  • Profion gwaed hormonau a ffrwythlondeb

Ffrwythlondeb ac Iechyd Hormonau

  • Ymgynghoriadau a ymchwiliadau ffrwythlondeb (AMH, LH, FSH, uwchsain)
  • Diagnosis a rheolaeth PCOS
  • Gofal menopos, gan gynnwys cyngor ar HRT, therapïau testosteron, a mynediad at driniaethau newydd

Atal Cenhedlu ac Wrogynaecoleg

  • Gosod a thynnu coil neu fewnblaniad
  • Asesiad prolaps a gosod pessari
  • Cyfeiriadau at ffisiotherapi llawr y pelfis

Iechyd Fwlfa a’r Wain

  • Gofal arbenigol am y fwlfa, mislif, poen, thrush a/neu gollyngiad cyson
  • Rheoli cyflwr cronig yn y fwlfa
  • Ymchwiliadau targedig a chynlluniau triniaeth bersonol

Uwchsain Gynaecolegol Uwch

  • Sganiadau pelfig drwy’r wain a’r abdomen
  • Delweddu 3D/4D pan fo’n angenrheidiol yn glinigol
  • Olrhain ffoliglau
  • Asesiad endometrium ar gyfer gwaedu anghyson neu ôl-menopos
  • Sgan beichiogrwydd cynnar ar gyfer sicrwydd
  • Sgan Uwchsain fel rhan o becyn gwiriad menywod iach, menopos, ffrwythlondeb, a PCOS

Pam Dewis West Wales Women’s Wellbeing?

Gofal dan arweiniad ymgynghorydd arbenigol gynaecoleg, menopos ac uwchsain

  • Lleoliad cyfleus yng Nghaerfyrddin — does dim rhaid teithio’n bell
  • Cyfathrebu clir a chynluniau triniaeth bersonol
  • Cyfathrebu di-dor gyda’ch Meddyg Teulu
  • Amgylchedd modern, preifat, a chefnogol

Wedi’i gynllunio gan arbenigwyr. Yn ffocysu ar yr unigolyn.