Deall Camesgoriad Ailadroddus
Yn West Wales Women’s Wellbeing (WWWW), rydym yn deall pa mor anodd yw hi pan beichiogrwydd yn methu dro ar ôl tro, yn emosiynol ac yn gorfforol. Nid yw colli beichiogrwydd ddwywaith neu fwy ar ô lei gilydd yn anghyffredin, ac rydym yma i roi gofal cydymdeimladol, asesiad manwl, a chymorth personol.
Beth sy’n achosi Camesgoriad Ailadroddus?
Mae sawl rheswm posibl dros colli beichiogrwydd dro ar ôl tro, ac weithiau gall mwy nag un ffactor fod yn gyfrifol. Mae’n bwysig nodi, mewn tua 50% o achosion, nid yw’r achos yn cael ei ganfod, er bod ymchwiliad manwl wedi’i wneud.
Mae Achosion Cyffredin yn cynnwys:
- Ffactorau Genetig: Efallai bod un neu’r ddau bartner yn cario anffawd genetig sy’n cynyddu’r risg o golli beichiogrwydd.
- Anffurfiaethau’r Groth: Problemau strwythurol fel groth rhaniad (septate uterus), fibroidau, neu feinwe wedi ei greathio all achosi problemau gyda chynnal neu dyfu’r ffetws.
- Anghydbwysedd Hormonol: Achosion fel diabetes heb ei reoli, diffyg effeithiolrwydd y thyroid, neu Syndrom Ofarïau Polycystig (PCOS) yn medru effeithio ar feichiogrwydd.
- Cyflyrau Clotio’r Gwaed: Achosion megis Syndrom Antiphospholipid (APS) a Factor V Leiden sy’n cynyddu’r risg o glotio gwaed annormal a cholli beichiogrwydd.
- Heintiau: Er nad ydynt yn achos cyffredin, gall rhai heintiau gynyddu’r risg o golli beichiogrwydd.
- Ffactorau Bywyd: Mae ysmygu, yfed gormod o alcohol, gordewdra neu lefelau uchel o straen yn gallu cyfrannu at golli beichiogrwydd dro ar ôl tro.
Sut rydym yn ymchwilio i Camesgoriad Ailadroddus yn WWWW?
Os ydych wedi colli beichiogrwydd ddwywaith neu fwy yn olynol, rydym yn cynnig asesiadau manwl i ddod o hyd i’r achosion posibl, gan gynnwys:
Prawf Gwaed:
- Lefelau Hormonau: I wirio am anghydbwyseddau sy’n gallu effeithio ar y beichiogrwydd.
- Proffiliau Clotio: I ganfod unrhyw cyflyrau clotio’r gwaed fel APS.
- Prawf Effeithiolrwydd y Thyroid: Gan fod problemau thyroid yn cynyddu’r risg o golli beichiogrwydd.
Prawf Genetig:
- Profi am gromosomau afreolaidd yn y ddau bartner, neu i feinwe’r beichiogrwydd os yw ar gael.
Sganio ac Lluniadu:
- Sgan pelfig i werthuso strwythur y groth, canfod ffibroidau, polyps, neu raniad (septum).
- Efallai argymhellir sgan 3D neu MRI ar gyfer delweddau manwl.
Prawf Ychwanegol (os yw’n briodol, efallai y bydd angen cyfeiriad pellach):
- Hysterosgopi neu laparosgopi i archwilio strwythurau afreolaidd.
- Sgrinio am heintiau I chwilio am arwyddion o broblemau sylfaenol eraill.
Dewisiadau Triniaeth a Chefnogaeth:
Mae’r driniaeth iawn yn dibynnu ar yr achos Camesgoriad Ailadroddus:
Meddyginiaeth:
- Therapi hormonau ar gyfer anghydbwyseddau (e.e., cefnogaeth progesteron)
- Cyffuriau teneuo’r gwaed (e.e., aspirin neu heparin) ar gyfer cyflyrau clotio
- Triniaeth ar gyfer problemau thyroid neu ddiabetes
Opsiynau Llawfeddygol:
- Cywiro strwthurau anarferol y groth megis fibroidau neu rannau (septums)
- Tynnu polyps neu feinwe sydd wedi creithio sy’n gallu rhwystro mewnblaniad
Newidiadau i’r Ffordd o Fyw:
- Cyngor ar ddeiet ac ymarfer corff i gynnal pwysau iach
- Rhoi’r gorau i ysmygu a lleihau alcohol
- Rheoli straen a newidiadau ffordd o fyw i gefnogi lles cyffredinol
Cyngor ar Ffrwythlondeb a Geneteg:
- Ar gyfer y rhai sydd â risgiau genetig neu Camesgoriad Ailadroddus, mae cyngor a chefnogaeth ar gael i ddeall opsiynau beichiogrwydd yn y dyfodol.
Lles Emosiynol a Chefnogaeth:
Gall Camesgoriad dro ar ôl tro fod yn anodd iawn yn emosiynol. Mae’n gwbl naturiol teimlo:
- Galar, tristwch, a siom
- Dicter neu euogrwydd
- Pryder neu ofn ynghylch beichiogrwydd y dyfodol
Yn WWWW, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gefnogaeth emosiynol ochr yn ochr â gofal meddygol. Rydym yn cynnig:
- Cyfeiriadau i gowsela i’r rhai sydd angen cefnogaeth ychwanegol
- Mynediad at grwpiau cymorth lle gallwch rannu eich profiadau gyda phobl eraill sy’n deall
- Tîm cydymdeimladol, deallus sy’n gwrando ac yn cefnogi eich taith
Pryd ddylech chi geisio cymorth?
Rydym yn argymell i chi archebu ymgynghoriad os:
- Rydych wedi cael dau neu fwy o gamesgoriadau olynol
- Rydych yn cynllunio beichiogrwydd ac yn gwybod bod gennych gyflwr iechyd
- Rydych yn teimlo el eich bod wedi gorlwytho’n emosiynol ac eisiau cefnogaeth ychwanegol
Symud Ymlaen gyda Gofal a Chydymdeimlad:
Mae colli beichiogrwydd dro ar ôl tro yn daith gymhleth, yn feddygol ac yn emosiynol. Yn WWWW, rydym yn ymrwymo i roi asesiadau arbenigol, esboniadau clir, a chefnogaeth gydymdeimladol i chi. Hyd yn oed pan na chaiff achos penodol ei ganfod, mae llawer o fenywod yn mynd ymlaen i gael beichiogrwydd llwyddiannus gyda’r gofal a’r monitro iawn.
Nid oes rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun—mae ein tîm yma i’ch cefnogi bob camo’r ffordd.
Archebwch ymgynghoriad heddiw i ddechrau eich taith tuag at ddealltwriaeth , iechyd a lles meddyliol gwell.
