Beth yw PMOS/PCOS?
Mae Syndrom metabolig polyendocrin ofarïaidd (PMOS) / Syndrom ofari polycystig (PCOS) yn gyflwr hormonol cyffredin sy’n effeithio ar sut mae’rofariau yn gweithio. Er gwaethaf yr enw, does dim rhaid i chi gael coden ar eich ofari i gael diagnosis o PMOS/PCOS.
Mae PMOS/PCOS yn effeithio tua 1 o bob 10 o fenywod neu bobl sydd wedi’u penodi yn fenywaidd wrth eni, ac mae aml yn dechrau yn ystod blynyddoedd ieuenctid neu yn eich 20au cynnar.
Beth yw prif nodweddion PMOS/PCOS?
Efallai y byddwch yn cael diagnosis o PMOS/PCOS os oes gennych ddau o’r tri canlynol:
- Mislif anghyson neu dim mislif o gwbl – oherwydd ofwliad annigonol
- Lefelau uwch o hormonau gwrywaidd (androgenau) – sy’n gallu achosi gormod o wallt ar y wyneb/corff, acne, neu golli gwallt
- Ofariau polycystig – yn weladwy ar sgan uwchsain; gall y ofariau fod yn fwy ac yn cynnwys llawer o godennau bach (dydyn nhw ddim yn niweidiol)
Beth yw’r symptomau?
Mae’r symptomau’n amrywio o berson i berson ac mae’n bosibl y bydd y canlynol yn digwydd:
- Mislif anghyson neu dim mislif o gwbl
- Acne neu groen blewog
- Cynnydd mewn pwysau neu anhawster colli pwysau
- Gormod o dyfiant gwallt (hirsutism) ar y wyneb, y frest, y cefn neu’r cluniau
- Colli gwallt o’r pen neu gwallt yn teneuo
- Newidiadau hwyliau, egni isel neu hunan-ddelwedd gwael o’r corff
Nid oes gan bawb sydd â PMOS/PCOS yr holl symptomau hyn.
Beth sy’n achosi PMOS/PCOS?
Nid yw’r union achos yn hysbys, ond mae rhai ffactorau’n cynnwys:
- Anghydbwysedd hormonol – lefelau uchel o inswlin ac androgenau (hormonau gwrywaidd)
- Geneteg – gall redeg mewn teuluoedd
- Gwrthiant inswlin – pan nad yw celloedd y corff yn ymateb yn iawn i inswlin, sy’n arwain at gynnydd mewn cyfradd cynhyrchu hormonau y corff
Sut caiff PMOS/PCOS ei ddiagnosio?
Efallai bydd y meddyg yn gwneud y canlynol:
- Trafod symptomau a hanes meddygol
- Profi gwaed – i wirio lefelau hormonau
- Cynnal sgan uwchsain pelfig – i edrych am ofariau polycystig
Rheoli Symptomau
Er nad oes modd cael gwared yn llwyr ar PMOS/PCOS, gellir rheoli llawer o’r symptomau’n effeithiol gyda newidiadau I’r ffordd o fyw, meddyginiaeth, a thriniaethau targedig.
Newidiadau i’r ffordd o fyw
- Diet iach a gweithgaredd corfforol rheolaidd sy’n gallu gwella sensitifrwydd i inswlin a chydbwysedd hormonau
- Colli ychydig o bwysau (5–10%). Gall helpu i adfer ofwliad
Meddyginiaethau
- Atalyddion hormonaidd – er enghraifft, y pil, clwtyn neu’r coil i reoli mislif a lleihau acne neu dwf gwallt
- Metformin – sy’n gwella gwrthiant inswlin ac weithiau’n helpu i reoli mislif
- Meddyginiaethau beichiogrwydd – fel clomiphene neu letrozole os ydych chi’n ceisio cael plant
- Gwrth-androgenau – fel spironolactone i leihau twf gwallt neu acne
Triniaethau cosmetig
- Ar gyfer gwallt di-angen (er enghraifft, wacsio neu dynnu gwallt gyda laser)
- Cefnogaeth gan ddarmatolegydd ar gyfer acne
A yw PMOS/PCOS yn effeithio ar allu i gael plant?
Ydy, gall PMOS/PCOS ei gwneud hi’n anoddach cael I ddod yn feichiog oherwydd ofwliad anghyson. Fodd bynnag, mae llawer o bobl gyda PMOS/PCOS yn beichiogi’n naturiol neu gyda chymorth triniaethau beichiogrwydd.
A yw PMOS/PCOS yn effeithio ar iechyd hir dymor?
Os na chaiff ei reoli, gall PMOS/PCOS gynyddu’r risg o:
- Diabetes math 2
- Pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel
- Apnoea cysgu
- Iselder neu bryder
- Canser y groth (oherwydd ni fydd leinin y groth yn cael ei adennill yn rheolaidd)
Yn WWWW, rydym yn canolbwyntio nid yn unig ar leddfu’r symptomau ond hefyd ar trawsnewid iechyd hir dymor. Gall ddiagnosis cynnar a monitro rheolaidd helpu i leihau’r risgiau hyn.
Pryd ddylwn i weld meddyg?
Mae angen gweld meddyg os:
- Mae’r mislif yn anghyson neu ddim yn digwydd o gwbl
- Rydych chi’n cael trafferth gyda acne neu dwf gwallt gormodol
- Rydych chi’n cael anhawster beichiogi
- Mae gennych bryderon am ennill pwysau, hwyliau, neu egni
Cefnogi Eich Lles
Credwn fod trin PMOS/PCOS yw fwy na rheoli symptomau – mae’n ymwneud â byw bywyd da. Mae ein dull yn cynnwys:
- Cynlluniau gofal personol wedi’u teilwra i’ch symptomau a’ch nodau iechyd
- Cyngor maeth i gefnogi cydbwysedd hormonau a rheoli pwysau
- Triniaethau hormonol i reoli’ch cylchoedd a lleihau symptomau
- Cefnogaeth emosiynol i helpu gyda’r heriau iechyd meddwl y gall PMOS/PCOS eu hachosi
Byw gyda PMOS/PCOS
Er y gall deimlo’n llethol weithiau, gall deall eich symptomau a chael y gefnogaeth iawn wneud gwahaniaeth mawr. Weithiau, gall byw gyda PMOS/PCOS deimlo’n unig, ond nid ydych chi ar eich pen eich hun. Yn WWWW, rydym yma i’ch cefnogi ar bob cam o’r ffordd gyda gofal cydymdeimladol a chyngor arbenigol.
Archebwch apwyntiad gyda ni heddiw i ddechrau eich taith tuag at well iechyd a lles.
